Information & Links > Anthem
 

  The Welsh National Anthem    
  Mae hen wlad fy nhadau yn anwyl i mi,
Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri;
Ei gwrol rhyfelwyr, gwlad garwyr tra madd,
Tros ryddid collasant eu gwaed.

Gwlad, gwlad, pleidiol wyf i'm gwlad,
Tra mor yn fur
I'r bur hoff bau,
O bydded i'r hen iaith barhau.


Hen Gymru fynyddig, paradwys y bardd,
Pob dyffryn, pob clogwyn, i'm golwg sydd hardd;
Trwy deimlad gwladgarol, mor swynol yw hi
Ei nentydd, afonydd, i mi.

Gwlad, gwlad, pleidiol wyf i'm gwlad,
Tra mor yn fur
I'r bur hoff bau,
O bydded i'r hen iaith barhau.


Os treisiodd y gelyn fy ngwlad dan ei droed,
Mae hen iaith y Cymry mor fyw ag erioed,
Ni luddiwyd yr awen gan erchyll law brad,
Na thelyn berseiniol fy ngwlad.

Gwlad, gwlad, pleidiol wyf i'm gwlad,
Tra mor yn fur
I'r bur hoff bau,
O bydded i'r hen iaith barhau.


A Welsh Brass Band
Playing The Anthem


Click on the Play Button

 

© 2010 - Ysgol Gymunedol Llangatwg Community School